Ionawr 20fed: Yn Thurston's ar y dydd hwn yn 1932, cyn i'r rheol "baulk-line" ddod i fodolaeth, fe wnaeth Walter Albert Lindrum, OBE, (Awstralia) rediad o 4137 mewn gem o biliards mewn ond 2awr a 55munud yn unig!
Chwefror 1af: Ar y dydd hwn yn 1855, cafwyd y cyfarfod cyntaf o'r "Billiards Association" yn swyddfa 'Yr Heliwr' gyda masnachwyr a chwaraewyr biliards proffesiynol y cyfnod yn bresennol. Yn dilyn, cynhalwyd cyfarfodydd wythnosol dan reolaeth John Roberts (un o brif chwaraewyr biliards proffesiynol y cyfnod)
Mawrth 18ed: Ganwyd Alex "Hurricane" Higgins ar y dydd hwn yn 1949. Yn y YMCA, Caerlyr, yn 1976, yn erbyn Willie Thorne, gwnaeth Alex rediad o 146 mewn gem sialens snwcer - Sef y chwaraewr cyntaf i wneud cliriad "16 pel goch" (un goch ychwannegol, sef 'pel rydd yn dilyn ergid droseddol gan ei wrthwynebydd)
Ebrill 14eg: Ar y dydd hwn yn 1937, darlledwyd gem o snwcer ar y teledu am y tro cyntaf - rhwng Horace Lindrum a Willie Smith. (Dim cweit yn siwr o'm ffeithiau, ond ar ddeall mai John Ifans oedd yn sylwebu!)
Mai 31ain: Mewn gem o "Bar Billiards" yn 'Y Bioden', Goring-on-Thames, dros gyfnod o 24awr ar y dydd hwn yn 1981, llwyddodd tim o bump chwaraewyr wneud sgor cyfanswm o 1,362,870!
Mehefin 1af: Gwnaeth David "The Silver Fox" Taylor rediadau snwcer o 130, 140 a 139 yn olynnol yn Maidenhead, Gwlad yr Haf, ar y dydd hwn yn 1978.
Gorffennaf 1af: Ar y dydd hwn yn Hamilton, Canada yn 1979, llwyddodd Gary Mounsey i suddo 11,700 o beli mewn sesiwn 24awr o "American Straight Pool" (sef cyfartaledd o un bel pob 7.38 eiliad!)
Awst 22ain: Ganwyd Steve Davis ar y dydd hwn yn 1957. Yn ei gem gyntaf erioed ym Mhencampwriaeth Snwcer Proffesiynol y Byd "Embassy" yn 1979, fe gurodd Ian Anderson o 9 ffram i 2. Erbyn hyn, y mae wedi mynd ymlaen i ennill y teitl chwe gwaith!
Medi 21ain: Cwblheuwyd y 'Rheloau Biliards Swyddogol' cyntaf ar y dydd hwn yn 1855.
Hydref 10ed: Yn Awstralia ar y dydd hwn yn 1952, gwnaeth Walter Albert Lindrum, OBE, rediad answyddogol o 100 yn biliards mewn 27.5 eiliad yn unig! Yn Sydney, Awstralia yn gynharach yn 1941 gwnaeth Walter rediad swyddogol o 100 yn biliards mewn 46 eiliad!
Tachwedd 9ed: Ar y dydd hwn yn 1980, fe ddaeth Jimmy White y chwaraewr 'ieuengaf erioed' i ennill Pencampwriaeth Snwcer Amatur y Byd, yn Launceston, Tasmania, Awstralia - Ac yntau ond yn 18 mlwydd ac 191 diwrnod oed!
Rhagfyr 11eg: Cafodd canlyniad y pwyllgor oedd wedi ei bennodi i ddrafftio 'Rheolau Snwcer' ei roi ger bron a'i basio gan y "Billiards Association of Great Britain and Ireland", ar y dydd hwn (sef ddydd Mawrth) yn 1900.